Landscape                                                                                                                                    

 

DATGANIAD I’R WASG

 

Ysgolion yr 21ain Ganrif - Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay AC, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y 'Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif a Chyfalaf Addysg'.

 

Dywedodd Mr Ramsay:

 

"Rwy'n falch o weld canfyddiadau'r Archwilydd Cyffredinol fod Llywodraeth Cymru wedi rheoli'r rhaglen fawr hon yn dda hyd yn hyn ac ymddengys ei bod ar y trywydd iawn i gyflawni'r gwelliannau i adeiladau ysgolion a ragwelwyd o'r rhan gyntaf o'r buddsoddiad.

 

"Fodd bynnag, mae'n amlwg bod mwy i'w wneud i fynd i'r afael â chyflwr cyffredinol ac addasrwydd llawer o ysgolion yng Nghymru ac ar adeg pan fo arian cyhoeddus o dan bwysau parhaus.

 

"Gyda newidiadau sylweddol posibl ar gyfer y rhaglen ar y gorwel, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn egluro'r sefyllfa gyllido cyn gynted ag y bo modd er mwyn rhoi amser i gynghorau a cholegau addysg bellach gael eu cynlluniau yn barod ar gyfer cam nesaf y rhaglen fydd yn dechrau yn 2019. 

 

"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol maes o law."

 

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion

 

Mae'r adroddiad llawn, 'Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif a Chyfalaf Addysg', ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth, neu os am wneud cais am gyfweliadau, lluniau neu gyfleoedd ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.